Enghraifft o'r canlynol | proses fiolegol |
---|---|
Math | symbiosis |
Yn cynnwys | mycorrhizosphere |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Perthynas symbiotig rhwng mathau o ffwng a gwreiddiau planhigion yw mycorhisa[1] (Groeg: μύκης 'mýkēs', "ffwng", and ῥίζα 'rhiza', "gwreiddyn"). Bathwyd yr enw gan Albert Bernhard Frank[2] yn 1885[3] yn fuan ar ôl darganfyddiad y perthynas. Dros y blynyddoedd diwethaf sylweddolwyd bod dros 80% o blanhigion uwch y byd, ynghyd â nifer o rhedynau a mwsog mewn perthynas mycorhisaidd[1]. Mae ei pwysigrwydd i'r planhigion (a, thrwy ein dibynaith ar gnydau, i ddynoliaeth) yn dod yn amlwg.